Thursday 2 October 2014

Gweithgareddau yn Blwyddyn 1 a 2 / Activities in Years 1 and 2

Them y tymor yma yn Blwyddyn 1 a 2, sef Dosbarth Newry, yw Y Gofod. Mae'r disgyblion wedi mwynhau gweithgareddau yn seiliedig ar y llyfr "Beth Nesaf."
Maent wedi cael cyfle i chwarae rol yn y roced yn y dosbarth! Maent wedi bod yn creu clai eu hunain ac yna mowldio'r clai i wneud rocedi, llongofod, planedau ac ambell i ddyn bach gwyrdd hefyd!



The theme this term in Year 1 and 2, namely Dosbarth Newry, is Space. The pupils have enjoyed many activities based on the book "Whatever Next."
They had an opportunity to roleplay in the rocket in class! They have been creating their own clay and then have shaped the clay to make rockets, spacecraft, planets and some little green men too!

Mae'r plant wedi bod yn greadigol yn ardal Ein Byd Bach ac wedi defnyddio tywod a chregyn i greu gwyneb y lleuad.
Mi ddaru ambell un greu rocedi a llongofod gan ddefnyddio eitemau wedi eu ail-gylchu i'w rhoi yn yr ardal hefyd. The children have been creative in our Small World area and have used sand and shells to create the surface of the moon.
Some created a few rockets and spacecraft using recycled items to go in that area.

No comments:

Post a Comment