Monday 22 September 2014

Ymweliad Mrs Jones i Uganda / Mrs Jones's visit to Uganda

Fel yr ydym i gyd yn gwybod, ar ddiwedd tymor yr Haf bu Mrs Jones ar daith bythgofiadwy i Uganda gyda'r Eglwys. Hoffai Mrs Jones ddiolch am garedigrwydd pawb a gyfranodd tuag at ddarparu adnoddau gwerthfawr i'r ysgolion yno. Dywedodd Mrs Jones ei fod yn brofiad anhygoel na fu iddi byth ei anghofio. Isod gwelwch ychydig o luniau o'i thaith. Os hoffech weld mwy o luniau, ewch draw i dudalen we yr Eglwys.
As we all know, at the end of last year's Summer term, Mrs Jones went on a once in a lifetime journey to Uganda with the Church. Mrs Jones would like to take this opportunity to thank everybody for their generosity in contributing financially towards valuable resources to the schools out in Uganda. Mrs Jones said that it was an extraordinary experience, one she will never forget. Above you can see some of the picture taken on the journey. If you wish to see more, please visit the Church's website.

Clybiau / Clubs

Eleni, yn dilyn arolwg ymysg y disgyblion, rydym am newid trefn ein clybiau ar ol ysgol. Bydd clybiau yn newid yn dymhorol ac o ganlyniad gobeithiwn ddarparu mwy o amrywiaeth yma yn Ysgol Y Parchedig Thomas Ellis. Os yw eich disgybl yn dymuno ymuno a'r clybiau sydd ar gael, a fyddech cystal a dychwelyd y llythyr sydd wedi ei ddarparu i'ch disgybl mor fuan a phosib. Diolch.
This year, following hearing views of our pupils, we are going to change the way our after school clubs will run. This year clubs will change termly in order to try and provide more of a variety here at Ysgol Y Parchedig Thomas Ellis. If you child wishes to take part in any of the above clubs, could you please complete the form sent home with your child as soon as possible. Thank You.


Mae Clwb yr Urdd yn boblogaidd efo disgyblion yr Adran Iau.  Mae nhw yn cael cyfle i wneud gwaith celf o bob math  ac wythnos diwethaf cafodd pawb gyfle i wnio.

Mae'r clwb yn cael ei gynnal bob Nos Fercher ar ol ysgol o 3.30 y.p. tan 4.30 y.p.  Dewch yn llu!











The URDD Club is popular with the Junior Department pupils. They have the opportunity to do all sorts of artwork and last week saw everyone sewing.

The club takes place every Wednesday after school from 3.30 pm until 4:30 p.m. Come along!

Dechrau Blwyddyn Newydd / Start of a New School Year

Hoffwn yma yn Ysgol y Parchedig Thomas Ellis, croesawu pawb yn ol yn dilyn gwyliau'r Haf. Gobeithio eich bod i gyd wedi mwynhau ac yn barod am flwyddyn addysgol arall. Mae gennym flwyddyn llawn bwrlwm ble bydd amrywiaeth eang o brofiadau ar gael i'r disgyblion, staff a ffrindiau'r ysgol. Os hoffech gysylltu gyda ni defnyddiwch y wybodaeth sydd ar gael ar ochr y dudalen hon.
We at Ysgol y Parchedig Thomas Ellis would like to welcome everybody back after the Summer holidays. We hope that you have had an enjoyable holiday and are ready for the new school year. We have a year full of exiting activities planned for pupils, staff and friends of the school. If you wish to contact us, please do so by using the contact details provided at the side of our webpage.